Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Geffylau
Cynhaliwyd yn Ystafell Gynadledda 21, Tŷ Hywel
Dydd Mawrth 15 Hydref 2013 am 6pm
Yn bresennol:
Angela Burns AC (Cadeirydd)
Janet Finch-Saunders AC (Is-gadeirydd)
Alan Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Andrew RT Davies AC (Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig)
Antoinette Sandbach AC
Byron Davies AC
Llyr Huws Gruffydd AC
Osian Jones (Staff cymorth Llyr Huws Gruffydd)
William Powell AC
Alex Phillips (Staff cymorth William Powell AC)
Gary Haggaty (Pennaeth Amaethyddiaeth) Llywodraeth Cymru
Fiona Leadbitter (Adran Amaethyddiaeth) Llywodraeth Cymru
Nic De Brauwere (Redwings/NEWC)
Lee Hackett Cyfarwyddwr Polisi Ceffylau Cymdeithas Ceffylau Prydain
Jenny MacGregor (SWHP)
Sian Lloyd (SWHP)
William Jenkins (NFU Cymru)
Lee Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr)
Jan Roche (Ysgrifenyddiaeth Cymdeithas Ceffylau Prydain)
Ymddiheuriadau:
Steve Carter (RSPCA)
Phillip York (Bransby)
Bethan Jenkins AC
Simon Thomas AC
1. Croesawodd Angela Burns bawb i'r cyfarfod.
2. Nodwyd yr ymddiheuriadau a ddaeth i law
3. Nodwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.
4. Prif eitem y cyfarfod oedd cyflwyniad ar y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) gan Alan Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd.
Rhoddodd y Gweinidog fraslun o fanylion y Bil a gyflwynwyd y diwrnod cynt, sef 14 Hydref 2013:
Mae'r Bil hwn yn cymryd camau tuag at wireddu’n gweledigaeth i gael gwared ar bori anghyfreithlon yng Nghymru.
Bydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol:
Cafwyd y datganiad ysgrifenedig a ganlyn hefyd gan y Gweinidog:
Heddiw, mae’n bleser gen i gyflwyno Bil Rheoli Ceffylau (Cymru).
Mae Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) yn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gael gwared ar bori anghyfreithlon yng Nghymru.
Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru
ymgynghoriad i geisio barn pobl ynghylch cael deddfwriaeth briodol
yng Nghymru i ddatrys y broblem ‘pori anghyfreithlon’,
fel y’i gelwir, ar draws Cymru. Daeth y cyfnod ymgynghori i
ben ar 29 Ebrill 2013.
Ym mis Gorffennaf cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o 604
ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw. Roedd mwyafrif helaeth y rhai
a ymatebodd o blaid cael deddfwriaeth i ddatrys y
broblem.
Mae’r Bil hwn yn rhoi’r un pwerau cyfreithiol i bob awdurdod lleol yng Nghymru ymafael yn y ceffylau sy’n pori ar dir heb awdurdodiad cyfreithiol neu ganiatâd y meddiannydd. Bydd ganddynt yr hawl hefyd i gadw, gwerthu, gwaredu neu ddifa’r ceffylau hynny drwy ddulliau dyngarol, fel y bo’n briodol, ar ôl cyhoeddi hysbysiadau a chwrdd â therfynau amser penodol.
Mae’r awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth i ymdrin â’r broblem hon, a hoffwn weld hynny’n parhau. Dim ond trwy gydweithio y gallwn ddileu’r broblem pori anghyfreithlon. Rwy’n ffyddiog y bydd y Bil Rheoli Ceffylau’n rhoi’r grymoedd newydd sydd eu hangen ar yr awdurdodau lleol i ddelio â’r broblem ac yn amddiffyn y choedd a’r amgylchedd rhag niwsans pori anghyfreithlon.
Yn dilyn y wybodaeth hon, codwyd y pwyntiau a ganlyn:
Costau – byddai cyngor ar gael i awdurdodau lleol, roedd hyn yn cael ei ystyried
Pasbortau a deddfwriaeth Ewropeaidd - roedd trafodaethau â DEFRA yn parhau
Ceffylau a gaiff eu rhoi ar dir yn anghyfreithlon - a yw'r tirfeddiannwr yn dal yn atebol? Teimlwyd bod angen cyngor a chanllawiau. Cafwyd sicrwydd y byddai'r mater hwn yn cael sylw.
Pa broblemau posibl all godi yn y dyfodol yn ymwneud â materion tebyg - byddai'r dulliau cyfathrebu blaenorol yn dal ar gael.
Y farn unfrydol oedd y byddai'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi pŵer i'r awdurdodau lleol fynd i'r afael â'r problemau ac yn caniatáu iddynt gydweithredu i'w datrys.
Byddai'r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) yn awr yn mynd ar ei hynt drwy gyfnodau'r Cynulliad a byddai modd cynnig gwelliannau tan ddiwedd mis Tachwedd.
Diolchodd Angela Burns i'r Gweinidog am ddod i'r cyfarfod ac am roi sylw i'r mater hwn.
Daeth y cyfarfod i ben am 7.15pm